|
Cwestiynau
Cyffredin
C. Faint fydd côst fy ngalwad ffôn i’r ganolfan
alwadau
A. Cost galwadau ydy
10c y funud yn ogystal â 6c o ffi cysylltu o briflinell BT, (gall
rhwydweithiau eraill a ffonau symudol amrywio).
C. Nid wyf yn gallu defnyddio’r cynlluniwr taith
oherwydd neges sy’n nodi camgymeriad ‘amser annilys’.
A.
Mewnbynnwch amser gan ddefnyddio’r colon i wahanu’r rhifau, e.e.
12:20.
C. Sut ydw i’n defnyddio’r
Dudalen Cynlluniwr Taith?
A. Mewnbynnwch eich
man cychwyn a lleoliad (gall hwn fod yn dref, stryd, côd post neu
gyfeiriad), dewiswch yr amser a’r dyddiad yr hoffech deithio a
dewiswch eich modd o deithio.
C. Sut ydw i’n defnyddio’r
Dudalen Amserlen?
A. Mewnbynnwch y rhif
gwasanaeth (gellir canfod hwn drwy ddefnyddio’r Cynlluniwr Taith),
dewiswch yr amser a’r dyddiad yr hoffech deithio ac yna edrych am yr
amserlen. I weld amserau cynharach / hwyrach, dewiswch y tabiau Cynt
/ Hwyrach ar waelod y dudalen. Ar gyfer y daith yn ôl, dewiswch y
tab Gwrthdro.
C Sut ydw i’n cynllunio taith
y tu allan i Gymru?
A. Os gellir gwneud
eich siwrnau ar dren, gallwch ei gynllunio drwy ddefnyddio gwefan
Traveline Cymru, Os yw’n daith sy’n cynnwys bysiau lleol nad ydynt
yng Nghymru, ymwelwch â gwefan ‘Transport Direct’ -
www.transportdirect.info.
C. Ble gaf i wybodaeth am
brisiau?
A. Am wybodaeth am
brisiau cysylltwch â’n canolfan alwadau ddwyieithog os gwelwch yn
dda ar 0871 200 22 33 (ar agor 0700 – 2200 yn ddyddiol, cost
galwadau ydy 10c y funud yn ogystal â 6c o ffi cysylltu o briflinell
BT, gall rhwydweithiau eraill a ffonau symudol amrywio). Fel arall,
dilynwch y dolenni ar ein tudalen Prisiau at wefannau gweithredwyr
trafnidiaeth gyhoeddus.
C. Sut allaf i gwyno am
weithredwyr bysus?
A. Ar gyfer cwynion
am wasanaethau bysus, cysylltwch â Bus Users UK ar 029 2022 1370 os
gwelwch yn dda neu e-bostiwch
wales@bususers.org. Ar gyfer cwynion am wasanaethau tren,
cysylltwch â Passenger Focus ar 08453 022 022 os gwelwch yn dda neu
e-bostio
hello@passengerfocus.org.uk.
C. Ble ydw i’n mynd i gael fy
nhocyn mantais bws?
A. Am docynnau
mantais, cysylltwch ag Adran Drafnidiaeth o fewn eich awdurdod lleol
os gwelwch yn dda. Gellir canfod dolen i wefan pob awdurdod lleol ar
dudalen Dolenni y wefan hon.
C. Ble ga i ddefnyddio fy Nhocyn Mantais
Cymraeg?
A. Gellir
defnyddio'r Tocyn Mantais ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru.
Ni ellir defnyddio'r tocyn Cymraeg ar gyfer teithio yn Lloegr, ac ni
ellir defnyddio'r tocyn Saesneg i deithio yng Nghymru.
|