TrawsCambria
Mae’r "TrawsCambria"
yn rhwydwaith cyfredol ac allddodol o wasanaethau bws pellteroedd
hwy yng Nghymru.
Gwasanaethau:
Mae’r rhwydwaith yn cynnwys y gwasanaethau hyn:
·
X40:
Aberystwyth - Llanbedr Pont Steffan - Aberaeron - Caerfyrddin -
Abertawe - Caerdydd
(a weithredir ar y cyd gan
First Cymru ac Arriva Cymru)
·
X32:
Aberystwyth - Bangor
(gweithredir
gan Arriva Cymru ac Express Motors)
·
X94:
Wrecsam - Dolgellau – Y Bermo
(gweithredir gan Arriva Cymru a GHA Coaches)
·
X50:
Aberystwyth - Aberteifi (gweithredir gan y Brodyr Richards)
·
704: Aberhonddu -
Newtown
(gweithredir gan Stagecoach)
Gellir gweld amserlenni ar gyfer y gwasanaethau hyn drwy ymweld â’r
dudalen amserlenni a thrwy
deipio rhif y gwasanaeth perthnasol i mewn.
Cysylltiadau
Mae’r rhwydwaith yn darparu:
·
Cyswllt yn Aberystwyth rhwng yr
X32 a’r X40;
·
Cyswllt yn Nolgellau rhwng yr
X32 a’r X94;
·
Cyswllt yng Nghaerfyrddin rhwng gwasanaethau trên a’r
X40;
·
Cyswllt ym Machynlleth ac ym Mangor rhwng gwasanaethau trên a’r
X32
Mae’r cerbydau sy’n gweithredu’r gwasanaethau TrawsCambria yn rhai
newydd sbon; llawr-isel, mynediad hawdd; a chanddynt seddi wedi’u
huwchraddio sy’n addas ar gyfer teithiau hir, CCTV ac ymhen amser,
bydd ganddynt reseli beiciau. Mae cynlluniau i ychwanegu mwy o
wasanaethau at y rhwydwaith yn fuan e.e. Y Drenewydd - Aberhonddu.
Bydd unrhyw wybodaeth newydd yn cael ei hychwanegu at y dudalen hon.
Am
wybodaeth am brisiau rhowch alwad i ganolfan alwadau Traveline Cymru
ar 0871 200 22 33. Gellir defnyddio pas teithio consesiwn Cymru
Gyfan ar holl wasanaethau TrawsCambria ac eithrio teithiau
rhwng Abertawe a Chaerdydd ar yr X40.
Teithio gyda beic
Mae bysiau sy’n gweithredu ar wasanaethau X32 ac X94 yn cynnwys
rheseli sy’n gallu cario hyd at ddau feic ar y tro. Mae’r
cyfleuster yma ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Dim ond mewn
rhai mannau y gellir mynd â beiciau i mewn ac allan o’r bysiau -
gellir dod o hyd i’r mannau hynny
yma
Mwy o wybodaeth
Am mwy o wybodaeth am gwasnaethau TrawsCambria,
Am fwy o
wybodaeth am wasanaethau TrawsCambria,
weler y wefan newydd 'ma